Lleoliad:
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2022
Amser:
09.00 -
09.51
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Aled ap Neill (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfrifol Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Richard Thomas, Trawsnewid Strategol Tom Jackson, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Nid oes dim newidiadau i fusnes y llywodraeth yr wythnos hon. Dywedodd y Trefnydd wrth y pwyllgor mai hi fydd yn ateb cwestiynau heddiw ar ran y Prif Weinidog.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 29 Tachwedd
· Cynnig i amrywio’r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil Diogelu'r Amgylchedd (Plastigau Untro) (Cymru) (5 munud)
Dydd Mawrth 6 Rhagfyr
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid Hinsawdd – Datganiad Terfynol ar gyfer Cyllideb Garbon 1 (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen:
Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i:
4.2 Papur i’w nodi - llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog ynghylch gwaith craffu ar oblygiadau ariannol Biliau
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
5 Diwygio'r Senedd
5.1 Ystyried Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - diweddariad ar benderfyniadau
Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried dau argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd:
1. Maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd fwy
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth bellach ar y mater hwn tan y cyfarfod dilynol.
2. Nifer y Dirprwy Lywyddion mewn Senedd fwy
Ymhellach i'r casgliad a gytunwyd yn y cyfarfod blaenorol - y dylai deddfwriaeth ar Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol presennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn diwygiedig o ddau Ddirprwy Lywydd - cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r ddeddfwriaeth ei gwneud yn ofynnol y dylai Aelodau a etholir i rolau'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd gynrychioli o leiaf ddau grŵp plaid. Daeth y Pwyllgor hefyd i'r casgliad y dylai'r ddeddfwriaeth ddatgan, pan fydd y Senedd yn ethol dau Ddirprwy Lywydd y dylai'r deiliad swydd hyn gynrychioli tair plaid wahanol, lle y bo'n bosibl.
Cytunodd mwyafrif y Pwyllgor Busnes y dylai ddod i'r casgliad y dylai'r ddeddfwriaeth ddiwygio'r teitlau 'Presiding Officer' a 'Deputy Presiding Officer' i 'Speaker' a 'Llywydd', a 'Deputy Speaker' a 'Dirprwy Lywydd', yn amodol ar Lywodraeth Cymru yn ystyried a oes gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol i wneud hyn. Nododd Siân Gwenllian a Jane Dodds eu bod yn ffafrio defnyddio 'Llywydd' a 'Ddirprwy Lywydd' yn unig yn y ddeddfwriaeth.
5.2 Datblygiad tybiaethau cyffredin
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur ymgynghori ynghylch nifer o ragdybiaethau a fydd yn sail i'r wybodaeth sydd i'w darparu gan Gomisiwn y Senedd i lywio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd. Cytunodd y Pwyllgor y dylid rhoi ystyriaeth bellach i ragdybiaethau ynghylch nifer bosibl y pwyllgorau mewn Senedd fwy. Cytunwyd hefyd y dylai'r rhagdybiaethau a'r wybodaeth a gaiff eu cyflwyno ynghylch gweithgareddau Seneddol amlinellu'r ystod o weithgareddau a wneir gan y Senedd. Gofynnwyd am lunio papur arall i'w drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.